UWB Crest

Y Ganolfan Rheolaeth

Ystafelloedd cynhadledd

Image of halls

Beth am archebu ein cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer eich digwyddiadau corfforaethol i gyd?

Yma yn y Ganolfan Rheolaeth, rydym yn darparu’r gefnlen ddelfrydol ar gyfer unrhyw gyfarfod, cynhadledd neu ddigwyddiad corfforaethol.  Mae ein tîm arlwyo a digwyddiadau’n cynnig pecynnau pwrpasol sy’n addas i bawb, yn cynnwys cinio canol dydd preifat ar gyfer swyddogion gweithredol a digwyddiadau gyda’r nos ar gyfer 100 o bobl a mwy.

Mae ein hamrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod a chynhadledd hyblyg ar gael fesul diwrnod, gallent ddal hyd at 50 o gynrychiolwyr ac maent yn cynnwys cyfleusterau TG a chlywedol rhagorol.  Mae Neuadd Hugh Owen, sy’n gallu dal hyd at 150 o gynrychiolwyr, ar gael ar gyfer digwyddiadau mwy.

 

Lluniau o'r ystafelloedd cynhadleddi

I weld yr oriel, llusgwch y llithrydd i sgrolio'r mân-luniau.