UWB Crest

Y Ganolfan Rheolaeth

Lleoliad

people in car

 

Does byth fwy na phaen o wydr rhyngoch chi a rhai o olygfeydd prydferthaf y wlad.

Pan fyddwch yn ddigon ffodus i gael eich lleoli rywle mor drawiadol â lle rydym ni, rhaid ichi dderbyn na ellwch wella ar natur. Pan rwygodd y rhewlifau’n araf trwy Ogledd Cymru yn y gorffennol pell, creasant dirwedd unigryw sydd wedi denu ymwelwyr yn ôl dro ar ôl tro.

A dyma’r cefndir i’r Ganolfan Rheolaeth.  Er mai ychydig oriau’n unig o daith sydd rhyngom a dinasoedd Lerpwl, Manceinion a Dulyn, rydym mewn byd ar wahân.

Yn lleol, mae llawer iawn i’w wneud a’i brofi, o heicio i sgwba-blymio, o ymweld â hen siambrau claddu i gestyll trawiadol, heb sôn am y cynnyrch lleol ffres a’r croeso Cymreig rhyfeddol.

Am fwy o wybodaeth am ein lleoliad gwych, ewch ar ymweliad â Thwristiaeth Gogledd Cymru.

Sut i gyrraedd y Ganolfan Rheolaeth

Bangor is probably easier and quicker to get to than you might think, by road, rail or bus! 

Lleoliad


View Larger Map

Ar y Ffordd

Gellwch ‘lacio’ o’r map lleoliad rhyngwladol hwn (a ddarperir gan Google map) i weld ein hunion leoliad, a’i ddefnyddio i gynllunio eich taith ar y ffordd.

Mewn Bws

Mae Bws Arriva yn gwasanaethu Bangor yn ddyddiol; ewch i wefan Arriva

Ar y Trên

Mae Bangor o fewn cyrraedd hwylus o’r rhan fwyaf o ardaloedd ym Mhrydain ar y trên, a cheir gwasanaeth uniongyrchol rheolaidd i Lundain trwy Crewe.  Ewch i wefan i Rheilffyrdd Cenedlaethol am fanylion am wasanaethau trên i Fangor.

Ar y Môr

Os ydych yn teithio o Iwerddon, mae gennych ddewis o longau fferri neu long hofran gyflym o Ddulyn neu Dun Laoghaire.  Am fanylion yngl?n ag amseroedd hwylio, ewch i Irish Ferries neu Stena Line.

Dim ond 30 munud o daith yn y car yw Porthladd Caergybi oddi yma, neu cewch wasanaeth trenau uniongyrchol i Fangor sy’n cymryd rhyw 30 munud.  Ewch i wefan y Rheilffyrdd Cenedlaethol am fanylion.

Mewn awyren

Maes Awyr Môn
Mae Maes Awyr Môn yn 25 munud o daith mewn car, a cheir siwrneiau dyddiol yn ôl ac ymlaen i Gaerdydd.  Cewch fanylion ar wefan Maes Awyr Môn.

Meysydd Awyr Lerpwl a Manceinion
Mae meysydd awyr rhyngwladol Lerpwl a Manceinion yn rhyw 1½ awr o daith mewn car o’r Ganolfan Rheolaeth.  Ceir hefyd wasanaeth reilffordd aml o Faes Awyr Manceinion neu Lerpwl – ewch i wefan y Rheilffyrdd Cenedlaethol am fwy o fanylion.
Am fanylion am siwrneiau awyr i Fanceinion, ewch i wefan Maes Awyr Manceinion, ac o ran siwrneiau awyr i Lerpwl, ewch i wefan Maes Awyr Lerpwl.

Y Ganolfan Rheolaeth
Ysgol Busnes Bangor
Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Gwynedd LL57 2DG
e-bost: info@themanagementcentre.co.uk

Ffôn: +44 (0)1248 365 900
Ffacs: +44 (0)1248 365 947