Mae Clwb Busnes Prifysgol Bangor
yn Y Ganolfan Rheolaeth
yn cynnig lle soffistigedig a bywiog i bobl, sefydliadau a busnesau o bob math i gyfarfod, rhannu syniadau a thrafod materion y dydd.
Mae gan y Brifysgol gyfoeth o wybodaeth, doniau, adnoddau a chyfleusterau i’w cynnig i sefydliadau yn y rhanbarth i hyrwyddo datblygu cysylltiadau cryf â’r gymuned.
Mae’r Ganolfan Rheolaeth yn lleoliad gwych ar gyfer Clwb Busnes Prifysgol Bangor. Mae Lolfa’r Clwb Busnes, sydd yn edrych dros y Fenai, ar gael i aelodau ac yn gysylltiedig â hi mae canolfan fusnes lle gall aelodau fynd ar-lein trwy gyfleusterau Wi-Fi at bapurau newydd a chyfnodolion, yn ogystal ag amrywiaeth o wybodaeth berthnasol a defnyddiol.
Ar gyfer pwy mae’r Clwb?
Mae Clwb Busnes Prifysgol Bangor ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â meysydd busnes ac academaidd. Mae aelodaeth am ddim, yn amodol ar gymeradwyaeth y Ganolfan Rheolaeth. Gellir gwneud cais ar-lein gan llenwi y ffurflen electronig.
Gweler isod y ddolen gyswllt i'r rhifyn yr haf o Beitiau Busnes @ Bangor